Ymgynghoriad strategaeth
Mae Strategaeth Ymchwil Canser Cymru’n cael ei datblygu, yn barod i’w chyflawni erbyn 2020, yn sgil yr argymhelliad yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser. Dechreuodd y gwaith ym mis Awst 2018, ac mae’n cael ei arwain gan Rwydwaith Canser Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Cymru a Chynghrair Canser Cymru. Mae’r strategaeth yn manylu ar sut y gall gweithwyr proffesiynol ddatblygu a chymhwyso ymchwil i wella deilliannau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.
Mae gwybodaeth ar Strategaeth Ymchwil Canser Cymru ar gael yma. Mae drafft y strategaeth ar gael yma neu islaw.
Rydym yn awyddus i glywed eich barn ac mae'r ymgynghoriad bellach wedi agor tan 31 Ionawr 2020. Mae hwn yn gyfle i chi effeithio ddatblygiad y Strategaeth Ymchwil Canser yng Nghymru.
Gallwch rannu eich barn trwy ein harolygon ar-lein gan ddefnyddio'r lincs isod:
Mae croeso i chi gwblhau'r ddau arolwg os ydych chi am rannu'ch barn broffesiynol yn ogystal â'ch barn fel aelod o'r cyhoedd.
Gallwn eich sicrhau y bydd yr holl atebion yn parhau’n ddienw.
Rydym hefyd wedi cynnal tri digwyddiad ymgynghori ledled Cymru a byddwn yn rhannu ein canfyddiadau o'r gweithdai hyn cyn bo hir.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am y Strategaeth Ymchwil Canser yng Nghymru, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, plis cysylltu â ni ar WCRC@cardiff.ac.uk.