Strategaeth Ymchwil Canser Cymru Gyfan
Mae Cymru'n cynnal rhywfaint o waith ymchwil sy'n arwain y byd ym maes canser, ac mae menter newydd wedi'i sefydlu er mwyn cryfhau deilliannau'r genedl. Bydd datblygu strategaeth genedlaethol yn uno meysydd amrywiol ymchwil canser a gynhelir yma, a chynnig triniaethau ar gyfer canser i gleifion cyn gynted â phosibl. Mae strategaethau ymchwil canser yn cael eu datblygu ar draws y DU, ac mae Cymru'n falch o allu ychwanegu at y gwaith gwych a wnaed yn y maes hwn.
Cynghorwyd yn y Cynllun Darpariaeth Canser ar gyfer y GIG y dylai GIG Cymru ddatblygu Strategaeth Ymchwil Canser ar gyfer Cymru (CReSt Cymru). Daeth yr Athro John Chester(Canolfan Ymchwil Canser Cymru), yr Athro Tom Crosby (Rhwydwaith Canser Cymru) a Richard Pugh (Cynghrair Canser Cymru) at ei gilydd i arwain y strategaeth hon gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd ymchwil a gofal. Bydd y strategaeth yn adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau cleifion, elusennau, sefydliadau'r GIG, prifysgolion, y diwydiant fferyllol a Llywodraeth Cymru, ac yn gosod nod cyffredin ar gyfer ymchwilwyr canser yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf.
Lansiwyd proses ymgynghori blwyddyn mewn hyd er mwyn pennu argymhellion ar gyfer:
- Cynyddu treialon masnachol ac anfasnachol, gan ddwyn mwy o arian i Gymru a gwella mynediad cleifion i driniaethau o'r radd flaenaf
- Cefnogi treialon canser sydd wedi'u harwain gan Gymru ac astudiaethau eraill wedi'u dylunio'n dda
- Hyrwyddo pwysigrwydd Ymchwil a Datblygu a galluogi staff y GIG i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil
- Cynnal ymchwil â'r budd pennaf ar gyfer cleifion
Gwaith Eleanor Webber ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser Cymru yn ogystal â Rhwydwaith Canser Cymru. Mae hi'n rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am ddarparu'r strategaeth. Meddai, "Mae'n hynod gyffrous cefnogi strategaeth mor bwysig, drwy ddwyn y gymuned ymchwil canser ynghyd er budd cleifion canser yng Nghymru". Os oes diddordeb gennych mewn dysgu rhagor am y strategaeth, neu os hoffech rannu eich syniadau, cysylltwch â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru drwy ebostio WCRC@caredydd.ac.uk
Blog
Bydd y diweddariadau diweddaraf ar y strategaeth yn ymddangos yn ein blog yma. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.
Digwyddiadau
Bydd y digwyddiadau strategaeth diweddaraf yn ymddangos yma. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.