Lluniwyd yr adnodd addysgu rhad ac am ddim hwn i'w ddefnyddio gan athrawon Saesneg, Cymraeg, gwyddoniaeth ac ABCh. Mae'n cyfuno addysgu am ymchwil canser â barddoniaeth a llythrennedd digidol. Mae'r pecyn wedi'i anelu at gyfnod allweddol tri (11 – 14 oed) ac mae'n cyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol. Efallai y bydd yr adnodd hefyd o ddiddordeb i grwpiau ieuenctid a’r rhai sy’n addysgu eu plant gartref. Cofrestrwch isod er mwyn cael copi o'r pecyn addysg trwy ebost. Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno tri gweithgaredd allweddol:
Cwis canser
Gan godi ymwybyddiaeth o ganser, mae'r cwis hwn yn gofyn i blant ystyried a thrafod agweddau a chredoau personol a theimlo'n gyffyrddus ac yn hyderus ynghylch cyfrannu a chyfleu syniadau. Darperir gwybodaeth ffeithiol am ganser drwy’r atebion ac mae’n helpu plant i ddeall y risgiau a berir gan uwch-fioled, ysmygu a dietau gwael.
Y gwirionedd
Mewn byd sy'n llawn gwybodaeth anghywir, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gallu asesu dilysrwydd honiadau y byddwn yn eu gweld ar-lein neu yn y cyfryngau. Mae'r gweithgaredd hwn yn archwilio technegau i ddadansoddi'r wybodaeth a welwn mewn blogiau, ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg.
Gweithgaredd a chystadleuaeth barddoniaeth
Gofynnir i blant ddychmygu eu bod yn ymchwilydd canser a llunio cerdd. Mae hyn yn ysbrydoli llwybrau gyrfa yn y dyfodol ym meysydd gwyddoniaeth a llenyddiaeth, a hefyd yn gwella sgiliau llythrennedd. Rydym wedi datblygu dwy gerdd ffilm gydag Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) ac Owen Sheers i helpu i ysbrydoli. Bydd ysgolion hefyd yn cael cyfle i gyflwyno cerddi eu disgyblion i gystadleuaeth am y cyfle i ennill tocynnau llyfr gwerth £150 i'w hysgolion. Bydd cerdd yr enillwyr hefyd yn cael ei harddangos yn gyhoeddus mewn cyfleuster ymchwil i ysbrydoli gwyddonwyr a chleifion. Lawrlwythwch yr adnoddau isod i gael manylion llawn y gystadleuaeth. Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 30 Ebrill 2021.