John yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru ac mae'n glinigwr academaidd. Ymhlith ei rolau academaidd yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd mae Athro Oncoleg yn yr Ysgol Feddygaeth ac Arweinydd Thema Ymchwil Canser y Coleg. Mae ei waith clinigol fel Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Oncoleg Feddygol yng Nghanolfan Canser Felindre yng Nghaerdydd.
Yn bennaf, mae ymarfer clinigol John wedi bod ym maes canser y bledren, tiwmorau cell germ a chanserau'r pen/gwddf, ac mae ganddo ddiddordeb clinigol ymchwil arbenigol mewn treialon ar gyfer canserau'r bledren a'r pen/gwddf, ac mewn meddygaeth haenedig. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil labordy mae therapi genynnau wedi'i gyfryngu gan firws a bioddangosyddion ymateb i therapi canser.
Ymhlith ei rolau eraill amrywiol mae: Arweinydd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC) Caerdydd; arweinydd strategol uned treialon Cyfnod I Canolfan Canser Felindre; a Dirprwy Gyfarwyddwr Banc Canser Cymru. Mae'n gwasanaethu ar Bwyllgor Cyfryngau Newydd Ymchwil Canser DU a Bwrdd Ymgynghorol ei Ganolfan Datblygu Cyffuriau. Mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd Rheoli Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru.
Genetegydd dynol academaidd yw Duncan. Prif nod ei labordy yw archwilio'r rôl mae camweithrediad telomer yn ei chwarae wrth yrru ansefydlogrwydd genomig, esblygiad clonal a chynnydd tiwmor. Mae wedi bod yn gweithio ar delomerau dynol ers 1992, gan ddechrau â PhD a hyfforddiant ôl-ddoethurol gyda Dr. Nicola Royle a'r Athro Syr Alec Jeffreys ym Mhrifysgol Caerlŷr. Yn ystod y cyfnod hwn gwnaethant astudio cellwyriad ac amrywiad telomerig yn y boblogaeth ddynol ac esblygiad dilyniannau telomerig yn y rhywogaeth epaod mawr. Ym 1999 symudodd i Brifysgol Cymru yn Ysgol Feddygol Caerdydd (rhan o Brifysgol Caerdydd yn ddiweddarach) i ddatblygu ei grŵp ymchwil annibynnol ei hun. Cafodd ariannu cymrodoriaeth annibynnol, yn gyntaf oddi wrth Research into Ageing ac yna uwch gymrodoriaeth oddi wrth Ymchwil Canser DU. Hefyd derbyniodd ariannu oddi wrth Ymchwil Lewcemia a Lymffoma, Cymdeithas Ymchwil Canser Rhyngwladol, Ymchwil Canser Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Yn dilyn yr uwch gymrodoriaeth daeth yn aelod o staff ym Mhrifysgol Caerdydd.
Un o gyfraniadau allweddol ei labordy i faes telomer yw datblygiad dadansoddiad hyd telemer sengl (STELA), techneg sy'n pennu hyd telomer o un moleciwl DNA o ben penodol i'r cromosom; dyma'r dull o weithredu â'r cydraniad uchaf ar gyfer amcangyfrif hyd telomer ac yn bwysig mae'n canfod presenoldeb telomerau byr o fewn yr amrediad hyd y bydd camweithrediad ac ymasiad telomer yn digwydd ynddynt. Maent hefyd wedi datblygu'r gallu i ganfod a nodweddu digwyddiadau ymasiad telomer ar lefel moleciwl sengl. Maent wedi bod yn defnyddio'r offer hyn i ddeall mecanweithiau erydiad, cellwyriad ac ymasiad telomer, yn ogystal ag ymgymryd â gwaith cymhwyso i archwilio camweithrediad telomer mewn dilyniant tiwmor ac i brofi defnyddioldeb nodwyr prognostig a seiliwyd ar delomerau.
Cyfieithiad yn dod yn fuan
Mae Sunil Dolwani yn arweinydd thema Gastroenterolegydd a Chanser ar gyfer yr Is-adran Meddygaeth Poblogaeth yn Prifysgol Caerdydd. Mae'n arwain ymchwil rhyngddisgyblaethol i sgrinio, atal a gwneud diagnosis cynnar o ganser y colon a'r rhefr. Cefnogir ei ymchwil gan Cancer Research UK, Tenovus ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Roedd yn CI o astudiaeth CONCOP ac mae gan y grŵp raglen ymchwil trwy dreialon clinigol sy'n defnyddio technoleg newydd i sgrinio canser ac integreiddio setiau data gofal iechyd â charfannau poblogaeth hydredol.
Mae Richard Adams yn Ddarllenydd/Athro Cysylltiol ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Canser Felindre. Ef yw Cyfarwyddwr Uned Treialon Canser Cymru. Mae ei ymchwil ac ymarfer clinigol yn canolbwyntio ar ganserau rhan isaf y llwybr gastroberfeddol. Ef yw cadeirydd is-grŵp canser yr anws a'r rhefr y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol ac mae'n weithredol mewn sefydliadau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys IRCI - Menter Ryngwladol Canser Anghyffredin (ar gyfer canser yr anws) ac ARCAD.
Richard yw cadeirydd grŵp datblygu bioddangosyddion ar gyfer treial cyfnod III FOCUS4 yn y DU mewn canser y colon a'r rhefr metastatig ac ef yw Prif ymchwilydd y treial FOCUS4 D. Mae'n arwain y rhaglen sicrhau ansawdd radiotherapi ar gyfer treialon ARISTOTLE, COPERNICUS and TREC yn y DU. Mae'n goruchwylio ymchwil cydweithredol cymhwyso mewn nifer o dreialon canser y colon a'r rhefr cyfnod II/ III. Ef oedd un o sylfaenwyr cyswllt Gofal Canser De Cymru â Sierra Leone a bellach ef yw'r cadeirydd.
Ymunodd Ayesha â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru ym mis Medi 2020. Mae rôl Ayesha yn gyfrifol am y gofynion adrodd a chyllid ar gyfer ein canolfan a Chanolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC). Mae Ayesha hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau yn ein canolfan, gan gynnwys cefnogi datblygiad gweithgaredd ymchwil cyfnod cynnar a datblygu cais adnewyddu ECMC Caerdydd.
Mae gan Ayesha dros wyth mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes gweinyddu prifysgol, yn fwyaf diweddar yn cefnogi ymchwil glinigol ac anghlinigol yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd wedi gweithio ym maes cymorth i fyfyrwyr a gweinyddiaeth israddedig ac ôl-raddedig mewn sawl sefydliad Addysg Uwch arall, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caint.
Mae Louise wedi gweithio o fewn y GIG ers 2004, hi oedd gynt yn aelod o'r Tîm Codi Arian yng Nghanolfan Ganser Felindre ac yna symudodd ymlaen i fod yn rhan o'r Tîm Treialon Clinigol ble sefydlodd a chefnogodd rhedeg portffolio mawr o dreialon clinigol . Mae ei rôl o fewn WCRC yw Swyddog Prosiect, sy'n cynnwys cydlynu a rheoli prosiectau amrywiol o fewn y pecyn gwaith clinigol sy'n canolbwyntio ar gam cynnar a threialon rheoledig ar hap.
"Rwy'n mwynhau helpu pobl eraill ac mae ymchwil glinigol yn dod yn rhan hanfodol o taith canser y claf felly i fod yn rhan o'r gweithredu a hyrwyddo ymchwil rhagorol sydd o fudd i gleifion ledled Cymru a thu hwnt yn rhoi boddhad."
Daw Jodie o ganolbarth Cymru yn wreiddiol, ac mae hi'n frwdfrydig dros gyfathrebu ac ymgysylltu.
Graddiodd yn 2008 â gradd mewn Ysgrifennu Creadigol a Chynhyrchu Fideo a chafodd gyflogaeth yn y drydedd sector, gan weithio ym maes cyfathrebu ar gyfer elusennau meddygol ac anifeiliaid. Yn 2012 gweithiodd fel rhan o dîm a enillodd aur yng ngwobrau CIPR Cymru.
Mae hi hefyd wedi gweithio yn sector y celfyddydau, gan arwain marchnata syrcas cyfoes mwyaf blaenllaw'r DU.
Ymunodd â WCRC ym mis Gorffennaf 2015 ac mae hi'n chwarae rôl allweddol wrth roi cyhoeddusrwydd i weithgareddau'r Ganolfan ac ymgysylltu'r cyhoedd â'n gwaith.