Ffrwd Gwaith Diagnosau Gwell
Mae ein hymchwil i ataliadau wedi’u personoli yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso strategaethau i annog dewisiadau ffordd o fyw iachach mewn grwpiau o bobl risg uchel, fel rhoi’r gorau i ysmygu neu gadw at ddeiet iach.
Rydym yn adeiladu ar ein cryfderau ym maes sgrinio, atal a diagnosis cynnar er mwyn lleihau baich canser ar bobl Cymru a thu hwnt. Gwnawn hyn drwy wneud ymchwil sy’n helpu i atal canser, lle bo’n bosibl, sy’n codi annormaleddau yn y cyfnod cyn-ganseraidd neu sy’n canfod canser yn ei gamau cynharaf, cyn y gall dyfu ac ymledu.
Rydym yn defnyddio data poblogaeth i:
- Wella iechyd yr ysgyfaint drwy gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint ac annog pobl mewn cymunedau difreintiedig i geisio help.
- Edrych ar ffactorau genetig a ffordd o fyw a chysylltu’r rhain â data ar ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn i ymchwilio i:
- Ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddadansoddi data a deall risg canser yn well;
- Strategaethau atal ymddygiadol (e.e. deiet) a therapiwtig (e.e. rhagnodi meddyginiaethau) mewn canser y colon a’r rhefr.