Ffrwd Gwaith Diagnosau Gwell
Rydym yn canolbwyntio’n gryf ar waith rhyngddisgyblaethol er mwyn gwerthuso technoleg a allai wella diagnosis canser.
Rydym yn gweithio ar wella sut caiff canserau cynnar a pholypau cyn-ganseraidd yn y coluddyn eu canfod gan ddefnyddio technoleg delweddu newydd a bacteria wedi’u peiriannu sy’n ein helpu i adnabod meysydd risg.
Rydym yn datblygu ffyrdd mwy effeithiol o ragfynegi deilliannau cleifion gan ddefnyddio biofarcwyr – profion sy’n dweud wrthym am gyflwr presennol tiwmor neu sut mae’n debygol o ymddwyn. Mae dau uchafbwynt yn y maes hwn yn cynnwys:
- Telomerau yw’r rhannau ar ddiwedd cromosom: mae eu mesur nhw’n rhoi mewnwelediad i brognosis claf. Rydym yn adeiladu ar lwyddiant blaenorol wrth ddadansoddi hyd telomerau a sut gellir cymhwyso hyn i helpu i ragfynegi’n well pa mor gyflym bydd canser claf yn tyfu. Gyda’r wybodaeth hon bydd meddygon yn gallu rhagnodi’r triniaethau mwyaf priodol.
- Rydym yn parhau i ddatblygu profion gwaed syml fel nad oes rhaid i gleifion gael biopsi a allai amharu drwy ganolbwyntio ar ganfod DNA ac ecsosomau sy’n cael eu rhyddhau i’r gwaed o diwmorau.