Ein Ymchwil
Rydym yn cynnal ac yn cefnogi ymchwil canser o’r safon uchaf, ac yn canolbwyntio ar feysydd pwysig y mae angen clinigol amdanynt i sicrhau ein bod yn gallu helpu cleifion mewn ffordd mor effeithiol â phosibl.
Mae Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) yn ein hymchwil wrth galon ein gwaith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am PPI yma.
Rhennir ein gwaith ymchwil yn bedair ffrwd waith:
- Ataliadau wedi’u Personoli
- Diagnosau Gwell
- Deilliannau Gwell i Gleifion
- Y Profiad Gorau Posibl i Gleifion
Byddwn yn sicrhau bod pob un o’r ffrydiau gwaith hyn yn cyflawni gwaith ymchwil rhagorol i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i gleifion canser, ym mhedwar ban byd, nid yng Nghymru yn unig.