Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd
Mae ein tîm o chwe phartner ymchwil yno i gynnig help a chyngor i ymchwilwyr ar unrhyw feysydd gwaith a fyddai’n elwa o gynnwys cleifion neu’r cyhoedd. Gallwch weld sut mae pob partner ymchwil wedi'i gysylltu ag arweinwyr ein rhaglenni yn ein organogram. Mae mwy o wybodaeth am rôl y grŵp ac enghreifftiau o'u gwaith i'w gweld yma. Gellir cael cyfeiriadau ebost ar gyfer partneriaid ymchwil trwy anfon ebost atom drwy wcrc@cardiff.ac.uk.
Dylai aelodau'r cyhoedd sydd eisiau mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn ymchwil ddarllen y wybodaeth ar ein tudalen we i gleifion.
Gellir cael help ac adborth ar ddarnau byr o waith (crynodebau lleyg, dogfennaeth cleifion ac ati) gan y Gyfadran Leyg yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau.
Os ydych chi'n ymchwilydd sydd â diddordeb mewn cynnwys y cyhoedd yn eich gwaith, edrychwch ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gael gwybodaeth gyffredinol am sut i gynnwys cleifion a'r cyhoedd yn effeithiol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn gweithredu cronfa galluogi cyfranogiad a fydd yn darparu cyllid ar gyfer cynnwys cleifion a'r cyhoedd o ddechrau cais ymchwil sy'n cael ei ddatblygu; mae hyn yn aml yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan arianwyr. Mae angen gwneud cais yn gynnar am hyn oherwydd gall y broses ar gyfer recriwtio cleifion ac aelodau'r cyhoedd gymryd cryn amser. Rydym wedi sefydlu grŵp ymateb cyflym a fydd yn cwtogi’r cyfnod recriwtio i dair wythnos, ond bydd angen i chi gysylltu â ni cyn cyflwyno'ch cais i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn.
Mae'r dogfennau islaw ar gael i'w lawrlwytho er budd sefydliadau eraill sy'n dymuno cynnwys y cyhoedd yn eu gwaith: